Mi âf ym mlaen yn nerth y nef, Tua'r baradwysaidd dir; Ac ni orphwysaf nes cael gwel'd Fy etifeddiaeth bur. Mae llais i'm galw maes o'r byd A'i bleser o bob rhyw: Gwrandawaf finnau'r hyfryd sŵn - Llais fy Anwylyd yw. Ni wela' ar aswy nac ar dde, 'Mhlith holl wrthddrychau'r byd, Ddim dàl ymddiried yn ei nerth, Na rhoddi arno 'mryd, Iesu yw tegwch mawr y byd, A thegwch pena'r nef; Ac y mae'r cwbl sydd o werth Yn trigo ynddo Ef. A boed fy mhleser yma byth, O tan ei aden wiw; Na foed difyrwch genyf mwy Mewn dim ond yn fy Nuw. wrthddrychau :: wrthrychau yma byth :: bellach byth
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
I will go forward in the strength of heaven, Towards the paradisiacal land; And I will not rest until getting to see My pure inheritance. There is a voice calling me out of the world And its pleasures of every kind: I shall listen to the delightful sound - The voice of my Beloved is it. I shall not see on the left nor on the right, Amongst all the objects of the world, Anything in whose strength to keep trust, Nor to put my attention upon. Jesus is the great comeliness of the world And its pleasure of every kind: And the whole of what is of worth Resides in Him. And may my pleasure here forever be, Under his worthy wing; May I have no more interest In anything but in my God. :: here forever :: henceforth forever tr. 2014 Richard B Gillion |
|